Cafwyd noson i’w chofio yng Nghwmllynfell ym mis Medi gyda noson i lansio
is-bwyllgor ardal newydd y Fenter Iaith. Fel rhan o’r ymgyrch gan y Fenter i
fagu diddordeb lleol mewn digwyddiadau Cymraeg, cafwyd noson llawn adloniant
gyda dros 80 o bobl yn bresennol.
Yn
perfformio ar y noson oedd Ieuan Wyn, enw newydd ifanc o Gaerdydd sydd wedi
cystadlu sawl tro yng nghystadleuaeth ‘Can i Gymru’, Lisa Pedrick, enw cyfarwydd
iawn i’r ardal, a’r actores a chantores Gillian Elisa. Dechreuwyd y noson gyda
pherfformiad Ieuan, a fu’n canu cymysgedd o hen glasuron gan artistiaid megis
Huw Chiswell, Delwyn Sion ac Endaf Emlyn yn ogystal â sawl un o’i ganeuon ef.
Gillian Elisa oedd yn cyflwyno’r noson yn ei ffordd unigryw ei hun, yn diddanu’r
dorf rhwng yr artistiaid eraill. Yna cafwyd perfformiad hynod boblogaidd gan
Lisa, a fu’n canu sawl hen ffefryn yn ogystal â chaneuon o’i halbwm newydd,
Dyma’r Amser.
Gorffennwyd y noson gydag ymweliad gan Mrs OTT (un o gymeriadau cyfarwydd
Gillian), a dynnodd y raffl mewn ffordd anghyffredin iawn! Fe drawsnewidiwyd Mrs
OTT i Gillian i ddod a’r noson i ben gyda fersiynau newydd ar hen glasuron megis
‘Big Spender’ a ‘Don’t Rain on my Parade’. Yn dilyn llwyddiant y noson, mae yna
sawl digwyddiad arall ar y gweill yn cynnwys ‘Fforwm Chwaraeon’ ym mis Tachwedd.
Diolch i bawb a fynychodd y noson, a gobeithiwn mai hwn yw’r cyntaf o sawl noson
debyg.
Menter Iaith Cwmllynfell, Medi 2008