|
Nol i Bywgraffiad
Perfformiad
Cerddoriaeth
Ymddangosiadau Cyhoedduss
Cymeriadau
Galeri
Adolygiadau
Dolennau
Cyswllt
English
Cedwir Pob Hawl.
© Gillian Elisa 2004 - 2008
|
Heb benderfynnu pa ran i’w ddewis a chan geisio pwyso a mesur cyngor prifathro’r coleg, Mr Raymond Edwards yn ogystal â
barn ei thâd, cafodd gynnig y brif ran yn Nrama Gomisiwn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin yn 1974.
Dyma flwyddyn dyngedfennol ym mywyd a gyrfa Gillian Elisa. Chwarae Nimue, y brif ran yn Dewin Y Daran yn Eisteddfod
Cenedlaethol Caerfyrddin oedd y tro cyntaf i'r cyhoedd ddod i wybod amdani. Gyda’i pherfformiad fel Lodes Y Llyn mewn
cynhyrchiad dramatig a chyffrous newydd, roedd cynulleidfaoedd Cymru wedi’u swyno. Cafodd Gillian ei hun ei gwefreiddio
gan y profiad, ac roedd ei hangerdd tuag at actio, perfformio a chyfathrebu yma i aros. Mae’r gweddill,
fel rydym yn gwybod, yn hanes.....
Yn hydref 1974, ymunodd Gillian â chast Pobol y Cwm, cyfres newydd BBC Cymru. Yn chwarae rhan Sabrina Harries,
hi oedd aelod ifancaf a mwyaf newydd y cast, a oedd yn cynnwys rhai o actorion mwyaf adnabyddus a thalentog Cymru.
Ymhlith actorion fel Gaynor Morgan Rees, Lisabeth Miles, Brinley Jenkins, Islwyn Morris, Rachel Thomas a’r unigryw
Harriet Lewis, roedd Gillian yn llawn cyffro o gael gweithio gyda’r enwau mawr yr oedd hi’n gyfarwydd a’u gwylio ar
deledu, yn y theatr ac ar radio. Hyd heddiw, edrycha Gillian yn ôl ar y cyfnod yma ar Pobol y Cwm gyda balchder mawr
ac atgofion melys
Cynhaliwyd yr ymarferion yn oerfel Capel Ebenezer ar Heol Siarl yng Nghaerdydd, a recordiwyd y penodau yng Nghapel
Broadway. Roedd yr amserlen ar gyfer creu Pobol y Cwm bryd hynny mor wahanol i'r amserlen orlawn bresennol. Ochr
yn ochr a chalsuron Cymraeg fel Fo a Fe, wnaeth Pobol y Cwm osod cynsail a safon ym myd darlledu Cymraeg, ac y mae o
hyd yn gyfres bwysig - cyfres a ddathlwyd ei phen-blwydd yn 30 oed ar Hydref 16eg 2004. Llwyddodd cymeriad poblogaidd
Sabrina i hoelio sylw’r genedl am gyfnod o 10 mlynedd cyn iddi briodi Jac Daniels (Dafydd Hywel) a symud gydag ef i
Fryste, gan adael Gillian i ehangu ei gorwelion dramatig ymhellach a mynd i’r afael â rhannau a phrosiectau newydd....
Tudalen Nesa
|