Hafan - pwyswch yma
Hafan

Gillian Elisa
Bywgraffiad

Nol i Bywgraffiad

Perfformiad

Cerddoriaeth

Ymddangosiadau Cyhoedduss

Cymeriadau

Galeri

Adolygiadau

Dolennau

Cyswllt

English

Cedwir Pob Hawl.
ゥ Gillian Elisa 2004 - 2010



Gillian Elisa ゥ Mick O'Connell Cafodd rannau amrywiol iawn mewn nifer o gyfresi teledu adnabyddus fel The Magnificent Evans gyda Ronnie Barker, A Mind to Kill gyda Philip Madoc ar gyfer Channel 5 a Forever Green gyda John Alderton a Pauline Collins. Cafodd Gillian ei henwebu am wobr BAFTA am ei pherfformiad grymus o Ann, dioddefwraig cancr, yng nghyfres deledu S4C, Teulu. Dyma ond rhai o池 rhannau sy地 profi ei hyblygrwydd, ei ddyfnder a段 thalent fel actores. Heb fodloni ar actio yn unig, mae Gillian wedi gweithio地 galed ar ei pherformiadau fel cantores a pherfformwraig gomedi. Mae hi wedi rhyddhau 3 albwm erbyn hyn, y CD newydd Lawr y Lein, Rhywbeth yn y Glas, gan Fflach a Haul ar Nos Hir gan Sain yn 1999. Mae hefyd wedi bod yn llwyddiannus ym myd cerddoriaeth wrth iddi chwarae rhan allweddol mewn 4 o'r caneuon sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Can i Gymru. Un o ddiddordebau Gillian hefyd yw cyfieithu nifer o ganeuon o池 Saesneg i池
Gymraeg ar gyfer ei sioeau.


Yn enwog ledled Cymru a thu hwnt fel y cymeriad unigryw, Mrs O.T.T., y ddraig ddi-gywilydd, gogoneddus o Dregaron, mae Gillian wrth ei bodd yn perfformio cymeriad comedi mwyaf poblogaidd S4C. Cyrhaeddodd Mrs O.T.T. ddinas Caeredin eleni, gyda Gillian yn cynnal sioe un-fenyw newydd am y tro cyntaf yn y Fringe Festival ag y mae wedi perfformio dros wythnos gyfan yn yr Wyl eleni .


Gillian Elisa as 'Sabrina' in Pobol y Cwm ゥ BBC CymruNol yng Nghwmderi ers Noswyl y Mileniwm a gyda phrosiectau eang, uchelgeisiol ar y gweill, mae Gillian yn brysurach nag erioed. Naill ai地 teithio地 fyw gyda Peter Karrie, yn perfformio ei sioe un-fenyw neu地 poenydio段 chynulleidfa fel Mrs O.T.T., mae Gillian yn parhau i wthio ac ymestyn ei hun - does dim rhyfedd ei bod yn un o enwogion mwyaf blaenllaw, hyblyg a phoblogaidd Cymru